Over recent years housing has moved up political, public and academic agendas and yet policy and research are currently not well aligned. As we move into the second decade of devolved government in Wales, the WISERD Housing Research Network, the Welsh Assembly Government and Shelter Cymru will be co-hosting a conference which aims to present recent housing research in Wales and identify new directions for evidence-based policy and practice.
This one-day conference deliberately seeks to highlight the multi-disciplinary nature of housing research, with delegates able to choose from several themed sessions; Children and youth, Multiple Exclusion, Health, Housing Markets, Housing Rights and Planning for Housing. The day concludes with a drinks reception, during which delegates will have an opportunity to view research posters presenting recent and ongoing housing-related studies conducted by students, academics and housing organisations in Wales.
Call for papers and posters
We are currently inviting the submission of abstracts on the theme of housing in Wales. We hope to disseminate recent studies either completed in Wales or involving Welsh case studies, all of which have policy or practice implications. Furthermore, this conference aims to bring together researchers working in diverse disciplines. We anticipate that papers and posters might relate to the following broad topics but we welcome all submissions that address the overarching conference theme:
- Children and youth
- Multiple exclusion
- Health
- Homelessness
- Housing Markets
- Housing Rights
- Planning for housing
If you are interested in presenting a 15 minute paper please submit an abstract of no more than 250 words, with your name and contact details. If you wish to submit a poster please send a brief email outlining the subject of your research. The deadline for receipt of abstracts and posters is Friday 5th November 2010.
This conference will be useful and relevant to practitioners, academics and policy makers with an interest in housing and homelessness in Wales.
Dros y blynyddoedd diweddar mae materion tai wedi symud i fyny agendâu gwleidyddol, cyhoeddus ac academaidd ac eto nid yw polisi ac ymchwil cyfredol wedi’u halinio’n dda. Wrth i ni symud i ail ddegawd llywodraeth wedi’i datganoli yng Nghymru, bydd Rhwydwaith Ymchwil Tai WISERD , Llywodraeth Cynulliad Cymru a Shelter Cymru’n cynnal cynhadledd ar y cyd sydd â’r nod o gyflwyno ymchwil ddiweddar ar dai yng Nghymru a nodi cyfeiriadau newydd ar gyfer polisi ac arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae’r gynhadledd undydd hon yn ceisio’n fwriadol i amlygu natur amlddisgyblaethol ymchwil ar dai, a chaiff y cynrychiolwyr ddewis o blith nifer o sesiynau â themâu; Plant ac ieuenctid, Gwahardd Lluosog, Iechyd, Marchnadoedd Tai, Hawliau Tai a Chynllunio ar gyfer Tai. Bydd y diwrnod yn gorffen gyda derbyniad diodydd, lle caiff y cynrychiolwyr gyfle i edrych ar bosteri ymchwil sy’n cyflwyno astudiaethau diweddar a chyfredol sy’n gysylltiedig â thai a gynhelir gan fyfyrwyr, academyddion a sefydliadau tai yng Nghymru.
Galw am bapurau a phosteri
Ar hyn o bryd rydym yn eich gwahodd i gyflwyno crynodebau ar y thema tai a digartrefedd yng Nghymru. Rydym yn gobeithio lledaenu astudiaethau diweddar a gwblhawyd yng Nghymru neu sy’n cynnwys astudiaethau achos Cymreig, ac mae ganddynt oll oblygiadau polisi neu arfer. At hyn, nod y gynhadledd hon yw dod ag ymchwilwyr sy’n gweithio mewn disgyblaethau amrywiol ynghyd. Rydym yn rhagweld efallai y bydd papurau a phosteri’n gysylltiedig â’r pynciau bras canlynol ond rydym yn croesawu pob cyflwyniad sy’n ymdrin â thema gyffredinol y gynhadledd:
- Plant ac ieuenctid
- Gwahardd lluosog
- Iechyd
- Marchnadoedd tai
- Hawliau tai
- Cynllunio ar gyfer tai
Os oes diddordeb gennych mewn cyflwyno papur 15 munud a wnewch chi gyflwyno crynodeb heb fod yn fwy na 250 o eiriau, ynghyd â’ch enw a’ch manylion cyswllt. Os ydych am gyflwyno poster anfonwch neges e-bost fer yn amlinellu pwnc eich ymchwil. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn crynodebau a phosteri yw dydd Gwener 5 Tachwedd 2010.
Bydd y gynhadledd hon yn ddefnyddiol ac yn berthnasol i ymarferwyr, academyddion ac i’r rhai sy’n llunio polisïau, sydd â diddordeb mewn tai a digartrefedd yng Nghymru.
 |